Dr John ElwynHUGHESIonawr 25, 2023 Awdur a chyn-Brifathro Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yn dawel yn ei gartref, Bryn Ogwen, Bethel. Gŵr arbennig Deilwen; tad addfwyn a gofalgar Gwyndaf, Garmon, Siôn a Manon, a'u partneriaid hwythau, Margaret, Miriam ac Ifan. Mab annwyl y diweddar John a Myfanwy Hughes, Braichmelyn. Cyfaill cymwynasgar i nifer. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Mercher, Chwefror 8, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Jerusalem, Bethesda am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Coetmor, Bethesda. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof at Feddygfa Waunfawr a thîm gofalyddion cymunedol Tuag Adref. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates